#DYDDMIWSIGCYMRU 2017

SteveEavesFic

Mewn cydweithrediad a Sesiwn Fawr Dolgellau, bydd Ciwdod yn dathlu  #DyddMiwsigCymru drwy gynnal gig!

Dydd Gwener, Chwefror y 10fed bydd Steve Eaves a Chris Jones yn perfformio yn Y Llofft, Tafarn Y Fic yn Llithfaen.
Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Ciwdod yn falch o gefnogi #DyddMiwsigCymru er mwyn hybu eraill i ddarganfod a chefnogi cerddoriaeth Cymraeg.
Cymerwch olwg ar ciwdod.com am help i ddechrau band, cael gigs a chael eich clywed! Os oes gennych gig ar y gweill ac am gael help i hysbysebu – gyrrwch y gwaith celf atom ni er mwyn i ni ei hyrwyddo ar ein gwefannau cymdeithasol.
Gyrrwch e-bost i ffion@communitymusicwales.org.uk